Steve Killick
Mae perfformiadau Steve wedi’u cynllunio i ennyn diddordeb y gynulleidfa ac i fod yn ddigri a difrifol. Mae ganddo ddiddordeb mewn defnyddio storïau a storïa i feithrin empathi a dealltwriaeth emosiynol.
Fe yw awdur – ar y cyd gyda Taffy Thomas, Chwedleuwr Llawryfog cyntaf y Deyrnas Gyfunol – y cyfrolau ‘Telling Tales – storytelling as emotional literacy’ a ‘Building Relationship through Storytelling: a guide for foster carers’. Mae’n adrodd posau, straeon gwerin, straeon y tylwyth teg, mythau a chwedlau, yn aml gyda llawer o gyfranogiad gan, a thrafodaeth gyda, cynulleidfaoedd o bob oedran mewn llawer math o leoliadau amrywiol.
Mae wedi perfformio mewn llawer gŵyl chwedleua ac mae hefyd yn dysgu ac hyfforddi sut mae defnyddio chwedleua a storïau at bwrpas addysgiadol a therapiwtig. Yn ogystal, mae’n cynnal gweithdai ar gyfer unrhywun sydd â diddordeb mewn storïa, ar ba bynnag lefel. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ei lyfr cyntaf i blant, ‘Feelings are a Funny Thing’, sydd wedi’i seilio ar ei sioe i ysgolion.