Ruff Ceilidhs
30 mlynedd o ddawnsio yng Nghaerdydd! Ceilidhs cyson yn Neuadd Adloniant, Clwb Chwaraeon a Chymdeithasu, Ysbyty Athrofa Cymru, Caerdydd (fel arall, Ysbyty’r Waun) 8 tan ganol nos.
‘Dyn ni’n cwrdd bob nos Lun o 8 tan 10 yh yn y Neuadd y tu ôl i Eglwys Fethodistaidd St Andrew, Heol Caerffili, Llwynbedw, Caerdydd. Os ‘dych chi am ddawnsio’n amlach rhwng y ceilidhs pam na ddewch chi draw i ymuno â ni? Mae dawnsio’n HWYL, ac yn dda i chi!!
Mae’r clwb wedi datblygu o’r Ruff ceilidhs i alluogi pobl i ddysgu dawnsiau mwy cymhleth, a hynny o ystod ehangach o ffynonellau (Seisnig, Cymreig, Albanaidd ac Americanaidd). Serch hynny, nid gweithdy yw hwn.
‘Dyn ni’n cwrdd ac yn dysgu dawnsiau sy’n amrywio o ddawnsiau cymdeithasol Prydeinig hanesyddol o’r 17 ganrif hyd at ddawnsiau gan goreograffwyr Prydeinig cyfoes, yn ogystal ag ambell ddawns sgwâr a chontra Americanaidd. Mae’n glwb dawnsio sy’n rhoi’r cyfle i bobl sy’n mwynhau dawnsio wneud mwy ohono ac i wella’i dawnsio (wel dyna’r gobaith!).
‘Dyn ni hefyd yn trefnu gweithdai gyda galwyr a cherddorion gwadd.