Rag Foundation

Rag Foundation
Enw: Rag Foundation
Math o Rhestru:
Disgrifiad Byr: Cafodd Rag Foundation ei ffurfio gan y tîm cyfansoddi Neil Woollard, llais, ac aml-offerynwr Kate Ronconi ar ffidil yn y 90au hwyr.
Ar Gael Ar Gyfer:

Cafodd Rag Foundation ei ffurfio gan y tîm cyfansoddi Neil Woollard, llais, ac aml-offerynwr Kate Ronconi ar ffidil yn y 90au hwyr. Unwaith i’r gitarydd Richard Cowell ymuno fe recordio’n nhw eu halbwm cyntaf Minka ar Fflach:Tradd. Yna ymunodd y drymiwr Huw Rees ar y EP South by South West ac yn dilyn hynny’r albwm arloesol Uplands. Mae Daniel KillBride yn cwblhau’r band ar y gitâr fas.

Mae’r Rag Foundation yn dod o de Cymru ac maent wedi teithio gyda’u cerddoriaeth wreiddiol, llawn harmonïau, gwerin amgen ar draws y byd. Trwy eu cerddoriaeth byw maent wedi sefydlu enw da i’w hunain ar y sin ac mewn gwyliau. Maent hefyd wedi cefnogi Robert Plant o Led Zeppelin, Billy Brag ac wedi teithio Ewrop, Asia, Affrica a Gogledd America.

Mae Rag Foundation, ynghyd a’u cyfoedion Fernhill, Boys From the Hills, the KillBrides, Carreg Lafar, Pigyn Clyst a’r telynor Llio Rhydderch wedi trawsnewid cerddoriaeth gwerin Gymreig drwy’r label arloesol Fflach:Tradd. Yn dilyn cyd-weithio gyda Andy Cutting a Nigel Eaton o Blowzabella & Page & Plant, sydd wedi ennill nifer o wobrwyo’n, cymerodd y Rag Foundation ysbrydoliaeth o’r dylanwadau hyn a datblygodd y band sain newydd sy’n llawn egni a harmonïau sy’n adnabyddus rhan o adfywiad nu-folk.

Cyrhaeddodd y band y penawdau yn Haf 2013 pan gafodd eu cerddoriaeth eu glywed yn ystod gem Uwch Gynghrair Swansea City yn erbyn Manchester United a chafodd ei ddarlledu i 647 miliwn o gartrefi ar draws y byd gyda chynulleidfa teledu o 4.7 biliwn. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf yn 2014, the Sparrow & the Thief ac mae’n parhau i fod yn “maniffesto ar gyfer cerddoriaeth gwerin gyfoes ddisglair”.

Bandcamp: https://ragfoundation.bandcamp.com/

 

Facebook: https://www.facebook.com/ragfoundationmusic/
Twitter: @ragfoundation

Anfon neges at berchennog y rhestr

Cofnod Teitl:Rag Foundation

trac: Traddodiadau Cerdd Cymru
© 2019 trac Elusen Gofrestredig: 1085422;
Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014

RHESTRWCH I GAEL E-NEWYDDION+

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Blwch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org