Pat Smith a Ned Clamp
Cymysgedd egnïol o ganeuon ac alawon Cymreig ac Americanaidd yn cael eu cyflwyno yn fedrus ar y consertina, y gitâr, y llwyau a harmonicas.
Mae Pat yn galw ac yn chwarae ar gyfer twmpathau gyda Band Mawr Calennig. Mae’n berfformwraig feistrolgar ar y llwyau, ac mae ei gweithdai llwyau a dawnsio Cymreig yn addysgiadol ac yn llawer o hwyl.
Dros y blynyddoedd mae Ned wedi chwarae gydag amrywiol fandiau gan gynnwys Juice of Barley (Juice yn ddiweddarach), y deuawd ragtime dylanwadol Hamstrung Bones, y deuawd canu gwlad/ gwreiddiau Resonator ac, yn achlysurol, gyda’i fand mawr ei hun, yr Eduardo Clampini Allstars. Mae llawer o alw amdano fe hefyd i alw twmpathau.
Gyda’i gilydd mae’r ddau yn perfformio caneuon ac alawon hudolus, yr hen a’r newydd ‘o le bynnag y gallwn eu dwyn’, gan gyfuno harmonïau tyner gyda gallu cerddorol o’r radd flaenaf.