Olion Byw

Olion Byw
Enw: Olion Byw
Math o Rhestru:
Disgrifiad Byr: Olion Byw yw Lucy Rivers a Dan Lawrence, yn cyfuno ffidil, gitâr, mandolin a llais. Mae eu trefniannau cyffrous o alawon a chaneuon draddodiadol Cymraeg wedi eu britho gan gyfansoddiadau gwreiddiol, sy’n tynnu yn aml ar ddylanwadau rŵts a gwerin rhyngwladiol.
Ar Gael Ar Gyfer:

Olion Byw yw Lucy Rivers a Dan Lawrence, yn cyfuno ffidil, gitâr, mandolin a llais.  Mae eu trefniannau cyffrous o alawon a chaneuon draddodiadol Cymraeg wedi eu britho gan gyfansoddiadau gwreiddiol, sy’n tynnu yn aml ar ddylanwadau rŵts a gwerin rhyngwladiol.

Cwrddodd Lucy (merch fferm o’r Fenni) a Dan (mab siop gerdd Aberystwyth) yng Nghaerdydd deuddeg mlynedd yn ôl tra’n gweithio ar gynhyrchiadau theatr.  Mae’r ddau’n dal i weithio’n gyson o fewn y maes theatr yn ysgrifennu, cyfansoddi a perfformio yn reolaidd. Mae gan Lucy cwmni cynhyrchu ei hunain, Gagglebabble a Dan yn rhedeg stiwdio recordio ei hunain, Seindon.

Ers ffurfio yn 2010 mae nhw wedi bod yn brysur ar y sîn gwerin De Cymru ac ymestyn maent yn bellach bob blwyddyn. Gwelodd 2014 hwy yn cyrraedd Kolkata yn India, Kansas City yn yr Unol Dalaethau, Lorient yn Llydaw…. a Birmingham.

Mae gan Olion Byw dau CD ar gael, Hen Bethau Newydd (2012) a Mudo (2014). Gallwch chi wrando, lawrlwytho neu archebu CD drwy’r post o’r ardal siop ar ein gwefan.

Facebook: https://www.facebook.com/Olion-Byw-147322898692695/
Twitter: https://twitter.com/OlionByw

Anfon neges at berchennog y rhestr

Cofnod Teitl:Olion Byw

trac: Traddodiadau Cerdd Cymru
© 2020 trac Elusen Gofrestredig: 1085422;
Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014

RHESTRWCH I GAEL E-NEWYDDION+

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Blwch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org