Marcus Music
‘Rydym wedi arbenigo mewn Consiertinas ers y 70au hwyr, ar er bod y rhelyw o’n busnes wedi canolbwyntio ar adfer hen offerynnau, ‘rydym wedi bod yn cynhyrchu Consiertinas ers 1982.
Serch hynny, gyda’r prinder o Gonsiertinas, yn enwedig o’r math Anglo yng nghanol y 90au, ‘rydym wedi canolbwyntio ar gynhyrchu nifer mwy o gonsiertinas fforddiadwy, tra’n dal i gynnig gwasanaeth adfer llawn.
Mae’r ochr offer taro o’n busnes wedi tyfu oherwydd y diddordeb cynyddol mewn ail-greu hanesyddol a cherddoriaeth gynnar, ac erbyn hyn, ‘rydym yn gallu cynhyrchu drymiau sy’n addas at anghenion y mwyafrif o gyfnodau hanesyddol, ochr yn ochr ag offerynnau gwerin mwy traddodiadol.