Lowri Evans
Yn 2016 rhyddhaodd Lowri ‘Everyone is from somewhere else’ a chafodd ei gynhyrchu gan Mason Neely. Cafodd yr albwm ei hyrwyddo yn ystod taith o gwmpas D.U. a derbyniodd clod gan UK Magazine Reviews. Yn 2017 rhyddhaodd Lowri albwm byw ‘A little bit of everything’ ynghyd a’i phartner hir dymor a gitarydd Lee Mason. Mae’r albwm yn dathlu 10 mlynedd ers rhyddhad yr albwm cyntaf ac mae’n gasgliad o’u caneuon gorau yng Nghymraeg a Saesneg.
Mae Lowri wedi cydweithio gyda nifer o gyfansoddwyr yn cynnwys Henry Priestman, Tom McRae, Michelle Stodart (The Magic Numbers), Marry Waterson a Sam Genders.
Ym mis Mehefin 2018 fydd Lowri yn rhyddhau EP Cymraeg newydd ‘Yr un hen gi’.