Lleuwen Steffan
Mae’r gantores, cyfansoddwraig a gitarydd Lleuwen Steffan yn canu nid yn unig yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond hefyd yn y Ffrangeg a’r Lydaweg. Mae hi wedi perfformio a recordio fersiynau cyfoes o hen emynau Cymreig, disg a ddisgrifiwyd fel ‘yr albwm hynotaf, mwyaf hyfryd ‘rydych yn debyg o’i chlywed’. Cafodd ei halbwm unigol gyntaf ‘Penmon’, a oedd yn ffocysu ar lanw a thrai tirlun Cymru, dderbyniad cynnes ac adolygiadau da yn ryngwladol. Aeth ymlaen i fyw, i weithio ac i recordio ei thrydedd albwm yn Llydaw, gan ennill y Liet Rhyngwladoll (http://liet-international.com) am un o’i chaneuon yn y Lydaweg, Ar Gouloù Bev, cyn dychwelyd i Gymru yn ddiweddar. Gem rhyng geltaidd – peidiwch a’i cholli.