Linda Griffiths
Mae Linda Griffiths yn gantores sydd a’i gwreiddiau’n ddwfn yn naear Maldwyn, a gwreiddiau ei cherddoriaeth yn ddwfn yn y traddodiad gwerin Cymraeg. Ond ni fodlonodd ar dderbyn y traddodiad hwnnw’n oddefol: tynnodd ar ei gwreiddiau i ail-greu’r traddodiad mewn modd cyfoes, perthnasol a chreadigol. Clywir Linda’n canu cyfansoddiadau newydd yn ogystal â’r hen, gan gynnwys rai o’i gwaith ei hun, a geiriau pobol fel Myrddin ap Dafydd, sy’n feistr ar greu o’r newydd yn ysbryd y baledi a’r hen benillion. Mae hanes Cymru a gwladgarwch tanbaid hefyd yn elfennau yng nghaneuon Linda.