Kizzy Crawford
Mae Kizzy Meriel Crawford yn siaradwr Cymraeg a dechreuodd ei gyrfa unigol dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae ganddi wreiddiau Bajan ac mae wedi datblygu ei sgiliau cyfansoddi a pherfformio soffistigedig trwy gydol ei gyrfa.
Ei huchelgais fel artist du Cymreig yw gwneud ei marc trwy ffiwsio ‘soul’/jazz/gwerin dwyieithog ac mae hi eisoes yn cael cydnabyddiaeth am ei gwaith gyda’i cherddoriaeth yn cael ei chwarae ar BBC Radio Wales, Radio Cymru yn ogystal â pherfformiadau fyw ar S4C. Enillodd Kizzy cystadleuaeth Brwydr Y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2013, yn sicrhau iddi Wobr o slot ar Faes B yn ogystal â gwobr ariannol o £1000. Hefyd, enillodd Kizzy y gystadleuaeth Canwr/cyfansoddwr Merthyr a Rhondda Cynon Taf 2012 ac yna derbyniodd gwobr ariannol i recordio gyda Amy Wadge (gyd-gyfansoddwraig Ed Sheeran a Lewis Watson, wedi llofnodi i Gerddoriaeth BDI).
Yn ddiweddar, mae Kizzy wedi chwarae yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, WOMEX, Gŵyl Sŵn, Cynhadledd Plaid Cymru, Gŵyl y Gelli, cefnogi Sarah Gillespie yn yr ŵyl Jazz Llundain yn ogystal â chefnogi Gruff Rhys a Newton Faulkner ar ei dyddiadau Cymraeg o’i daith. Mae hi wedi cefnogi artisiaid fel Gruff Rhys, Newton Faulkner a Benjamin Francis Leftwich.
Yn 2014 arwyddodd cytundeb cyhoeddi gyda BDI / Bucks Music ac yn dilyn hynny chafodd ei dewis i fod yn rhan o Gorwelion y BBC a rhoddodd y cyfle iddi berfformio mewn nifer o ŵyliau a recordio sesiwn byw.