Isca Morris
Mae Isca Morris nawr yn dîm dawns cymysg sy’n cwrdd bob nos Fercher am 8 o’r gloch o fis Hydref i fis Ebrill bob blwyddyn naill a’i yn Cwmbrân Town AFC Social Club (ail ddydd Mercher y mis) neu’r Usk Vale, Mapas (ar bob wythnos arall). Yn ystod yr Haf rydym yn ceisio perfformio gymaint ag sy’n bosib. Edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dawnsio neu chwarae offeryn, dewch i ymweld â ni. Fyddwch yn sicr o gael croeso twymgalon. Ddim yn gallu dawnsio? Dim problem- nid oedd nifer ohonom ni yn gallu dawnsio pan ddechreuon ni!
Cysylltwch os ydych eisiau fod yn rhan o gadw hanes yn fyw neu eisiau mwy o ymarfer corff.