Holly Robinson
Mae gan Holly Robinson, 30 mlynedd o brofiad perfformio fel chwaraewr ffidil ac mae’n byw yng Ngorllewin Cymru. Mae ganddi hefyd brofiad o diwtora ac arwain gweithdai.
Dechreuodd Holly chwarae mewn bandiau dawns a grwpiau gwerin dra dal yn yr ysgol ac yn 2016 dechreuodd ei gyrfa gerddorol llawn amser gydag ystod o fandiau a deuawdau ac fel tiwtor ffidil.
Mae’n gweithio yn aml gyda thelynores, cyfansoddwr, galwr ac athrawes dawns Jess Ward ac yn cynnig cerddoriaeth ar gyfer digwyddiadau, cyngherddau, dawnsfeydd, gweithdai, gwyliau a llawr mwy.
Mae Holly yn chwarae gyda bandiau fel Triskellion, Off the Cuff, Estron, Quarto a Hounds of the Sea.
Ynghyd a’i cherddoriaeth, mae Holly hefyd yn cynnig ystod o wasanaethau cyfryngau a PR. Gweithiodd Holly yn flaenorol yn y wasg ranbarthol am 20 mlynedd. Mae wedi treulio 15 mlynedd mewn swyddi rheoli newyddion uwch yng Nghymru a Lloegr.
Mae Holly ar gael ar gyfer datganiadau i’r wasg, golygu cynnwys gwefannau, golygu unrhyw fath o ysgrifen, cynllunio, rhoi cyngor, a chefnogaeth ar gyfer ymgyrchoedd, cefnogaeth cyfryngau cymdeithasol, blogiau, hyfforddiant cyfryngau a chylchlythyrau.