Georgia Ruth

Georgia Ruth
Enw: Georgia Ruth
Math o Rhestru:
Disgrifiad Byr: Daw Georgia Ruth o Aberystwyth yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Ar Gael Ar Gyfer:

Daw Georgia Ruth o Aberystwyth yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Ar Hydref 7fed, 2016 rhyddhawyd ei hail albwm- Fossil Scale- trwy Navigaot Records. Ymysg y cerddorion sy’n ymddangos arno mae aelodau Cowboi Rhos Botwnnog, Meilyr Jones a Suhail Yusuf Khan (Yorkston Thorne Khan).

Enillodd Week of Pines, ei halbwm cyntaf (wedi’i chynhyrchu gan David Wrench) y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg 2013-14, a chafodd hi ei henwebu ar gyfer y BBC Radio 2 Folk Awards. Roedd hi’n westai ar raglenni Steve Lamacq a Lauren Laverne ar BBC 6Music. Mae hi’n ymddangos ar ‘Divine Youth’, can ar albwm Futurology y Manic Street Preachers (2014).

Mae hi wedi teithio’n eang yn India dros y ddwy flynedd diwethaf: fel aelod o Ghazalaw, ac efo prosiect Folk Nations y Cyngor Prydeinig. Mae hi hefyd wedi perfformio yn Fietnam gyda’r Cyngor Prydeinig.

Mae Georgia yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth wythnosol ar BBC Radio Cymru.

Facebook: https://www.facebook.com/music.georgiaruth/
Twitter: https://twitter.com/georgiaruth

Anfon neges at berchennog y rhestr

Cofnod Teitl:Georgia Ruth

trac: Traddodiadau Cerdd Cymru
© 2020 trac Elusen Gofrestredig: 1085422;
Cwmni cyfyngedig drwy warant: 4106014

RHESTRWCH I GAEL E-NEWYDDION+

CYSYLLTWCH Â NI+

trac
Blwch Post 205
Y BARRI CF63 9FF
01446 748 556
trac@trac-cymru.org