Elinor Evans
Ganwyd Elinor yn Aberdeen ond chafodd ei haddysg gynradd yn Aberystwyth. Yn dilyn gorffen ei gradd mewn Cerddoriaeth Draddodiadol yr Alban yn The Royal Conservatoire of Scotland (RCS) yn Glasgow mae hi’n ystyried ei hun fel cymysgedd o ddau ddiwylliant Celtaidd. Mae’n astudio am ddiploma uwchraddedig mewn Cyfansoddi a Pherfformiad yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd ac felly yn dychwelyd i’w gwreiddiau Cymreig. Dechreuodd Elinor i ganu’r Delyn pan yn 12 oed gan astudio gyda Meinir Heulyn. Unwaith iddi symud i Gaeredin parhaodd i astudio gyda Isobel Mieras a ysbrydolodd ei chariad tuag at y clarsach a cherddoriaeth draddodiadol.
Yn 2014 rhyddhaodd ei halbwm cyntaf ‘Kaleidoscope’ yn cynnwys ei chyfansoddiadau ei hunain a hefyd fe ryddhaodd lyfr o alawon ar gyfer y clarsach. Yn 2015 fe ryddhawyd cyfres o lyfrau yn cynnwys deuawdau i ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol ac ail lyfr o’i chyfansoddiadau gwreiddiol.