Elin y Delyn
Ychwanegwch awyrgylch hyfryd, fythgofiadwy a thipyn o safon i’ch digwyddiad. Dw i’n delynores broffesiynol wahanol, yn arbenigo mewn chwarae cerddoriaeth fodern a phoblogaidd yn ogystal ag ystod eang o gerddoriaeth glasurol wych a cherddoriaeth Gymreig i’ch gwesteion. Priodasau, digwyddiadau busnes, dathliadau penblwydd, lansiadau, nosweithiau agored, seremonïau graddio, arddangosfeydd – gyda fy repertoire eclectig, dw i’n mwynhau creu eich math chi o awyrgylch.
Wedi fy lleoli yn Ne Cymru, dw i’n gweithio’n breifat fel athrawes delyn yn Llantrisant, Merthyr a Chaerfyrddin. Byddaf yn teithio ymhellach, i Gaerloyw, i Aberhonddu a Gorllewin Cymru, ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill. Fy nhelynau: ar gyfer fy nigwyddiadau arferol dw i’n defnyddio cyngerdd-delyn fawr 47 tant gyda seinfwrdd estynedig, a thelyn Geltaidd 36 tant ar gyfer lleoliadau bach ac at bwrpas dysgu. Yn fy ngweithdai ysgol ac yn y gymuned dw i’n defnyddio fy 15 telyn glin. Dw i’n dwlu ar y delyn!