Carl Gough
Mae Carl yn chwedleuwr hyblyg sy’n ymateb i’w gynulleidfa. Mae’n gallu perfformio mewn nifer o sefyllfaoedd. Mae’n angerddol am storiâu sydd yn helpu pobl i deimlo cysylltiad gydag eraill a’r byd o’u cwmpas.
Mae gan Carl repertoire o storiâu yn addas i blant, oedolion ac i’r teulu cyfan. Storiâu yn cynnwys chwedlau o Gymru (yn cynnwys y Mabinogion), Damhegion, storiâu am ysbrydion, Y Pentamerone a nifer o storiâu chwilfrydig ac ystyrlon eraill.
Mae Carl yn defnyddio chwedleua er mwyn adloniant ac addysg drwy weithio yn yr awyr agored ac o dan do gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, parciau ac addysg oedolion. Mae wedi perfformio mewn gwyliau yn cynnwys Eisteddfod Llangollen a Beyond the Border. Mae hefyd wedi dweud straeon fel rhan of sioe BBC Radio Wales, “The Unexplainers”.
O ganlyniad i’w arbenigedd gwerthfawr a’i brofiad o’i waith ynglŷn â Datblygiadau Cymunedol a Busnesau Cymdeithasol, mae wedi darparu ymgynghoriaeth i’r ‘Society for Storytelling’ ac wedi cymryd rhan frwdfrydig mewn prosiectau sy’n cymryd chwedleua ac yn ei rhoi yn y cyd-destun ‘Rhannu Straeon, Rhannu Dealltwriaeth. Roedd y prosiect yn arloesol gan iddo ddefnyddio chwedleua fel ffordd o wella sgiliau iaith Saesneg ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches. Cafodd hefyd ei gomisynu i ddatblygu perfformiad (gydag Anthony Evans dehonglydd BSL) a fyddai’n uno cynulleidfa fyddar a gyda chlyw i mewn i un profiad chwedleua.
Yn frwd i gymryd comisiynau, datblygodd a pherfformiodd taith gerdded ym marc gwledig Craig y Nos oedd yn defnyddio chwedleua ar gyfer dehongli hanes, yn portreadu bywyd Adelia Patti.
Sefydlodd Carl ‘Swansea Storytelling’ sy’n rhedeg bob mis yn Abertawe.