Bendith
Bendith yw cymysgedd o dalentau’r bandiau Colorama a Plu. Rhyddhawyd eu sengl gyntaf ‘Danybanc’ yn 2016 ac enillodd eu halbwm cyntaf ‘Bendith’ wobr Albwm y Flwyddyn yn 2017. Aelodau’r band yw Carwyn Ellis o Colorama ynghyd ag Elan, Marged a Gwilym Rhys o’r band Plu. Mae’r caneuon wedi eu hysbrydoli gan- ymdeimlad lle, teulu a chartref.
Cafodd yr albwm ei recordio yn Acapela, Drwm a Stiwdio Masonic Lodge a’i gyd-gynhyrchu gyda Mason Neely. Mae nifer o gerddorion eraill yn ymddangos ar yr albwm fel Georgia Ruth a Patrick Rimes sy’n ychwanegu teimlad mwy cerddorfaol i’r caneuon.