Arfon Gwilym
Yn ganwr gwerin o deulu cerddgar o Sir Feirionnydd, mae gan Arfon stor o alawon gwerin ar ei gof, ac wrth ganu cerdd dant, mae’r geiriau a’r ysbryd yn bwysicach iddo na chadw at lythyren y rheolau.
Mae ganddo lais delfrydol ar gyfer canu gwerin, ac er bod ei ganeuon wedi eu gwreiddio yn y traddodiad Cymreig, mae iddynt hefyd newydd-deb arbrofol, gyda chaneuon a gosodiadau cerdd dant wedi eu haddasu gan Arfon ei hun. Teimlir cariad a gwerthfawrogiad angerddol am ein hetifeddiaeth a’n hiaith yn ei ganu, tra hefyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol at greu y Gymru Newydd.